|
Hafan |
|
Nod |
|
Arlunydd |
|
Lleoladau |
|
Cysylltwch â Ni |
|
Gwaith Gorffenedig |
|
Creu Cof Chwedlonol |
|
Rhos Gafallt |
chwedlCymer Rhos Gafallt ei enw gan brif helgi’r brenin Arthur chwedlonol ac mae’n un o nifer o leoliadau yn yr ardal sy’n gysylltiedig â’r brenin a’i weithgareddau hela. Ceir Maenarthur a Choed Maenarthur ychydig i’r gorllewin a gerllaw y mae Talken-y-Gayallt sydd bellach wedi’i golli. Yn ogystal, mae Corngafallt i’r dwyrain a Phumlumon Fawr i’r gogledd. Mae’n debygol bod y lleoliadau’n cyfeirio at helfa fawr Arthur am y Twrch Trwyth, oherwydd er eu bod wedi’u lleoli yn ne Cymru gan mwyaf, gallai’r lleoliad hwn ar gyfer y stori fod yn ganlyniad iddi gymryd ei ffurf ysgrifenedig derfynol wrth ddwylo’r mynachod a oedd yn gweithio yn ne Cymru, yn Nhyddewi fwy na thebyg, a ddefnyddiai dopograffi cyfarwydd. Mae’n sicr bod y stori tipyn yn hŷn na’r ffurf sydd gennym bellach ac mae’n ddigon posibl iddi fod yn fyth a ddelir ar raddfa eang ar hyd a lled Cymru a gweddill y Prydain Celtaidd ar un tro. Yn wir, mae llawer o leoliadau tebyg sy’n dwyn enwau ac olion troed tybiedig ci neu geffyl Arthur a allai, yn ddiddorol, fod wedi bod yr un peth. Hwyrach nad oedd Cabal, sef ‘ci’ Arthur, yn gi o gwbl. Mae’n bosibl mai camgymeriad yn nhrawsgrifiad y stori oedd hyn oherwydd yn y Lladin - sef yr iaith y cofnododd y mynachod y stori ynddi - mae ‘caballus’ yn golygu ‘ceffyl’. Felly, mewn gwirionedd efallai nad oedd Cabal yn enw o gwbl, ond yn hytrach yn enw sy’n golygu ‘ceffyl’. Mae mannau eraill sy’n dwyn enw helgi neu geffyl Arthur yn cynnwys y rhai a grybwyllwyd uchod ond hefyd y ddau leoliad a elwir yn Garn March Arthur ger Llanferres yn Sir Ddinbych (SJ 203636) a’r llall, fel y soniwyd yn flaenorol, ger Llyn Barfog uwchlaw Aberdyfi (SN 65059816). Y tu hwnt i Gymru ceir hefyd carreg yn St Columb, Cernyw (SW 913637), sydd ger clostir cynhanesyddol Caban Hela Arthur, sy’n cynnwys olion carnau ceffyl Arthur yn ôl pob sôn ac sy’n gysylltiedig â chwedlau pellach amdano yn hela yn yr ardal. Mae’r holl lên gwerin dopograffig hon yn clymu â’r hyn a wyddwn o hen destunau a straeon gwerin a drosglwyddwyd ar lafar i gadarnhau rôl Arthur yn y mythau hynaf fel heliwr cynddelwaidd. Yn y Prydain Celtaidd, dywedwyd yn aml i Arthur fod yn arweinydd ffenomenon uwch-naturiol sy’n adnabyddus i’r llên-gwerinwyr fel yr Helfa Wyllt. Ochr yn ochr â Gwyn ap Nudd (a oedd hefyd yn gyfaill i Arthur yn Culhwch ac Olwen), Arthur yw arweinydd mwyaf cyffredin yr helfa sbectrol hon yng ngorllewin Prydain ac mor hwyr â dechrau’r ugeinfed ganrif byddai llawer yn parhau i daeru iddynt glywed yr helwyr ofnadwy yn mynd heibio. Dywedir bod Cŵn Annwn, fel y’u hadwaenir yng Nghymru ac sy’n gyffredin ar draws y DU mewn gwirionedd ac yn wir yn Ewrop gyfan, yn wyn gyda chlustiau coch neu’n ‘ddu, gyda llygaid llydan ac yn ffiaidd’, yn ôl cofnod y Cronicl Eingl-sacsonaidd ar gyfer 1127 OC. Yng Ngogledd Dyfnaint cânt eu galw’n Helgwn Yeth (y Rhos), yn Helgwn Chwist ar Dartmoor ac yn Gŵn Dando ar ôl heliwr lleol yng Nghernyw. Yn aml, caiff yr helwyr eu clywed yn hytrach na’u gweld, gan rasio uwchben yn ystod storm ac yng Ngogledd Lloegr cânt eu hadnabod fel Helgwn Gabriel neu’n Gabble Retchets. Ar hyd a lled Ewrop, mae’r straeon amdanynt yn cytuno’n rhyfedd iawn: fel rheol daw’r helwyr ar geffylau duon gyda helgwn duon ac maent yn marchogaeth trwy’r awyr, y rhosydd a’r coedwigoedd ar gyflymder brawychus gan fynd ar drywydd teithwyr unig neu eneidiau’r meirwon yn aml iawn. Pan fyddant yn agos, bydd y bloeddio’n tawelu’n rhyfedd, gan fod yn uwch ymhell i ffwrdd ac mae crio gwyddau ymfudol, sy’n debyg i helgwn yn cyfarth, wedi’i gynnig fel un esboniad. Byddent yn marchogaeth am ganol nos, fel arfer yng nghanol y gaeaf, i hela eneidiau’r meirwon (neu yn achos y Tylwyth Teg o’r Llydaweg daw ‘Sir Orfeo’ am ganol dydd i hawlio’r byw hefyd). Mae Walter Map, a oedd yn ysgrifennu yn y ddeuddegfed ganrif, yn disgrifio ‘Cwmni Nosweithiol’ yr helwyr y mae’n eu galw’n ‘Gartref Herlethingus’ a arweiniwyd gan frenin Prydeinig hynafol arall, sef y Brenin Herla y tro hwn. Mae’n nodi iddynt farchogaeth trwy Ororau Cymru lle cawsant eu hysgubo i fyny i’r awyr a diflannu. Mae Mynach Normanaidd Walkelin, a oedd yn ysgrifennu yn 1092, yn dweud iddo weld cynhaliwr rhyfelgar ‘lle nad oedd unrhyw liw i weld, dim ond duwch a fflamau tanbaid…gwyddys fod llawer o bobl a welwyd yn fyw wedi marw’. Ar wahân i Herla, brenin marw arall oedd yn cael ei weld yn arwain yr helwyr yn aml. Yn Ffrainc a’r Almaen Charlemagne oedd hwn yn aml, yn Denmarc y Brenin Valdemar, yn Sbaen El Cid. Ac eto, ynghyd â brenhinoedd, gallai duwiau hefyd arwain yr helfa fel gyda Sacsoniaid de ddwyrain Lloegr a’r Almaen a welodd eu duw Woden a’r Norwyaid a welodd Odin a’r Falcyrïaid a oedd yn arwain y rhai a laddwyd i Valhalla. Arweiniodd cysylltiadau felly at lawer o Gristnogion yn credu mai’r Diafol ei hun ydoedd, gyda’r cythreuliaid a’r gwrachod yr oeddent yn eu hofni wrth iddo chwyrlïo uwchben. Fodd bynnag, yng Nghymru, yr Alban, gorllewin Lloegr a thipyn o Ffrainc, Brenin Arthur arweiniodd yr helfa sbectrol. Yn Ffrainc, fe’i hadwaenwyd fel ‘la Chasse Artu’ ers y drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, yng Nghernyw dywedwyd iddo ruthro trwy’r awyr uwchlaw Castle-an-Dinas ac; yng Nghastell Cadbury yng Ngwlad yr Haf mae’n arwain gorymdaith fwganaidd o farchogion ar hyd ‘Sarn Hela Arthur’ ar noson yng nghanol y gaeaf. Mae’n bosibl fod yr ymlid am y Twrch Trwyth angenfilaidd yn Culhwch ac Olwen yn ailadroddiad wedi’i liwio’n helaeth o fyth Helfa Wyllt cynddelwaidd. Mae’n ymddangos y gallai Rhos Gafallt fod yn grair i straeon felly. |
|
Rhostir Rhos Gafallt yng Nghwm Ystwyth uchaf ar y ffin â Choed Bwlchgwallter. |

Gwaith celf:Mae’r gwaith yn cyfeirio at chwedl leol y Brenin Arthur yn hela yn yr ardal, gyda Rhos Gafallt gerllaw yn cael ei enwi ar ôl ei helgi ffyddlon. Mae’n cymryd ffurf cerflun crog ar ffurf ci yn neidio wedi’i wneud o ffrâm rhwyll wifrog ac wedi’i gorchuddio â chyfuniad o ddefnydd effaith ffwr du a defnydd organig (h.y. dail, mwsogl, glaswellt etc) i roi gwead gwyllt ac ychydig yn arallfydol iddo. Caiff y darn ei hongian dros geunant Ystwyth er mwyn awgrymu’r helgi’n rhuthro trwy’r awyr, gan fynd gyda’r helfa wyllt sbectrol trwy’r awyr gan gyfeirio at chwedl Arthur fel arweinydd yr Helfa Wyllt fwganaidd. |
|
DYDDIAD AC AMSER: 22/7/07 - 26/8/07 LLEOLIAD: Ceunant Ystwyth yn Ystâd yr Hafod ger Pont-rhyd-y-groes. PRIS MYNEDIAD: Am ddim MYNEDIAD: Ar unrhyw adeg resymol, ceir mynediad trwy lwybr cerdded coetir anwastad ac felly mae’n anaddas i ymwelwyr anabl. CYFARWYDDIADAU: Gellir dod o hyd i’r gwaith celf yng ngheunant Ystwyth ar ystâd yr Hafod. Mae’r Hafod ddeuddeg milltir i’r de ddwyrain o Aberystwyth yn SN768736. PARCIO: Mae lle parcio ar gael mewn maes parcio bach oddi ar y B4574 rhwng Pont-rhyd-y-groes a Chwmystwyth.
I gael Mwy o Fanylion Cysylltwch â Chris fan hyn. |
|
Hafan I Nod I Arlunydd I Lleoladau I Cysylltwch â Ni I Gwaith Gorffenedig |
|
E-bost: legendarylandmarks@hotmail.co.uk |
Er mwyn cysylltu â Chris: |


ffotograffau: |