|
Hafan |
|
Nod |
|
Arlunydd |
|
Lleoladau |
|
Cysylltwch â Ni |
|
Gwaith Gorffenedig |
|
Creu Cof Chwedlonol |
|
LLYN Barfog |
ChwedlYn ôl y stori, yn nyfnderoedd cudd Llyn Barfog roedd anghenfil ofnadwy a adwaenwyd fel afanc yn byw ar un tro. Nid oes neb heddiw yn gwybod sut oedd yr anghenfil hwn yn edrych ond mae’r awgrymiadau wedi amrywio o ymlusgiad tebyg i grocodeil ffyrnig i afanc cigysol enfawr. Dywed rhai yr oedd ganddo’r gallu i agor drain gwenwynig er mwyn lladd pobl ddiarwybod a oedd yn mynd heibio. Dywedwyd bod y trigolion lleol wedi galw ar y Brenin Arthur ifanc am gymorth ar ôl cael llond bol o’r afanc yn rhodio’r tir ac yn dychryn pobl a da byw. Hwyrach bod y digwyddiadau hyn wedi digwydd cyn iddo ddod yn frenin pan oedd yn fachgen yng ngofal ei deulu maeth yng Nghaer Gai (hynny yw Syr Cai - brawd maeth Arthur) yng ngogledd Cymru. Daeth Arthur i’r llyn ac er mwyn iddo allu cyrraedd yr anghenfil i’w ladd, taflodd gadwyn fawr o’i amgylch ac aeth ati i’w dynnu o’r llyn. Gan roi pen arall y gadwyn yn sownd yn ei farch ffyddlon Llamrai, dechreuodd Arthur ei ornest dynnu ofnadwy. Roedd y straen gymaint nes i garn ei geffyl suddo i lawr i’r graig ei hun gan adael ôl carn clir. Daliodd y gadwyn a chan ruthro i lawr i’r llyn, tynnodd Arthur ei gleddyf yn gyflym a lladd y bwystfil. Mae fersiwn arall o’r stori’n honni bod ceffyl Arthur wedi gwneud yr ôl troed wrth ffoi wrth ei elynion ar ochr arall dyffryn Dyfi. Gan sylwi ei fod mewn cornel, yr unig ddewis a oedd gan Arthur oedd mentro i neidio ar draws lled gyfan y dyffryn. Dywedir bod ôl y carn ar y graig yn nodi ble y glaniodd ei geffyl. Mae yna straeon eraill ledled Cymru’n ymwneud â’r Afanc ofnadwy hwn, gan gynnwys Bedd Afanc ym mynyddoedd y Preseli a stori Hu Gardan yng ngogledd Cymru. Dywedir iddo hefyd dynnu Afanc; y tro hwn o afon yn Nyffryn Conwy gyda chymorth ych cryfion, a gollyngodd y bwystfil yn uchel i fyny yn Eryri mewn llyn a adwaenir fel Llyn Ffynnon Las.
|
|
Ôl carn tybiedig ceffyl Arthur yng Ngharn March Arthur ar y bryn uwchlaw Abertafol ac Aberdyfi. |
Gwaith celf:Gan gymryd ysbrydoliaeth o chwedl leol o anghenfil yn byw yn y llyn a oedd yn ymosod ar dda |
|
DYDDIAD AC AMSER: 12/8/07 - 2/9/07 LLEOLIAD: Llyn Barfog, Ger Aberdyfi, i’w canfod yn y bryniau yn SN 651982. PRIS MYNEDIAD: Am ddim MYNEDIAD: Ar unrhyw adeg resymol, gellir mynd ato trwy lwybr cerdded serth a charegog ac felly mae’n anaddas i ymwelwyr anabl. CYFARWYDDIADAU: Y ffordd orau o fynd ato yw o’r gogledd o Gwm Maethlon, mynd heibio’r fferm a dringo’n gymedrol ar hyd y llwybr wedi’i marcio tuag at Lyn Barfog. PARCIO: Mae lle parcio ar gael am ffi fach ym maes parcio’r Parc Cenedlaethol yng Nghwm Maethlon. I gael Mwy o Fanylion Cysylltwch â Chris fan hyn. |
|
Hafan I Nod I Arlunydd I Lleoladau I Cysylltwch â Ni I Gwaith Gorffenedig |
|
E-bost: legendarylandmarks@hotmail.co.uk |
Er mwyn cysylltu â Chris: |







|
byw lleol hyd nes i’r brenin Arthur chwedlonol ddod i ddelio ag ef, byddai’r gwaith ar ffurf tair pêl gwynt o feintiau amrywiol, wedi’u gorchuddio â ffwr, wedi’u lled-orchuddio â dŵr ac wedi’u hangori yn y llyn i roi’r argraff o gefn yr anghenfil. Bydd ffurf y darn yn fwriadol amwys ac yn rhoi’r argraff o ffurf gudd islaw’r dyfroedd er mwyn ennyn chwilfrydedd y gwyliwr ac awgrymu posibiliadau ymhell y tu hwnt i ffurf ffisegol y gwaith ei hun. Bydd yn awgrymu syniadau o wirionedd a chuddiad gan daflu syniadau yn ymwneud â’r berthynas rhwng ffaith a dehongliad yn enwedig mewn perthynas â chwedl. Mae’r ffurf y mae chwedl yn ei chymryd a’r darluniau meddyliol y mae’n eu creu yn aml yn ganlyniad tybiaethau brysiog a cham gasgliadau. |