|
Hafan |
|
Nod |
|
Arlunydd |
|
Lleoladau |
|
Cysylltwch â Ni |
|
Gwaith Gorffenedig |
|
Creu Cof Chwedlonol |
|
Nanteos mansion |
chwedlMae’r stori’n dechrau gyda Joseff o Arimathea, ewythr masnachol cyfoethog Iesu a dalodd am Ei fedd yn y Tir Sanctaidd. Yn ôl yr hanes, cymerodd Joseff y cwpan yr yfodd Iesu ohono yn ystod y Swper Olaf a defnyddiodd ef i ddal gwaed Crist wrth iddo hongian ar y groes. Ar ôl y Croeshoeliad, ffodd Joseff i Gâl gyda Sant Philip, Mair Magdalen a phobl eraill. O’r fan hon, anfonwyd ef i Brydain i argyhoeddi’r boblogaeth frodorol. Glaniodd yn Glastonbury a rhoddwyd tir iddo gan y brenin Arviragus lle sefydlodd yr eglwys gyntaf ym Mhrydain a chuddiodd y Greal yr oedd wedi’i gario o Balesteina. Parhaodd y cwpan cysegredig fan hyn am sawl cenhedlaeth wedi’i ddiogelu gan fynachod abaty Glastonbury hyd nes i Harri’r VIII ddechrau diddymu mynachlogydd ar hyd a lled y wlad ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg. Cafodd trysorau naill ai eu hysbeilio neu eu dinistrio yn y gloddest dilynol o eiconoclastiaeth a disgynnodd lluoedd y brenin, dan arweiniad y Thomas Cromwell gwaradwyddus, ar yr abaty. Ac eto, yn digwydd bod roedd un o’r mynachod allan yn ymweld â’r cleifion gyda’r cwpan gwyrthiol ar yr union eiliad honno ac felly llwyddwyd i osgoi ei dinistrio. Yn ofni am eu crair gwerthfawr, penderfynodd saith o’r mynachod a oedd yn weddill i ffoi tua’r gorllewin a mynd ar daith beryglus dros y mynyddoedd i abaty Ystrad Fflur yng ngorllewin Cymru. Pan gyrhaeddon nhw eu nod arhosodd y cwpan yn yr abaty am beth amser gan ddenu pererinion o bellteroedd mawr i geisio pwerau adferol y cwpan, gyda rhai hyd yn oed yn cnoi rhannau o’r pren o gwmpas yr ymyl i ffwrdd mewn gobaith o gael iachâd. Fodd bynnag, yn y pen draw nid oedd yr abaty anghysbell hwn hyd yn oed yn ddiogel o bŵer rheibus y wladwriaeth ac aeth y mynachod eu hunain yn hen ac yn fusgrell, gyda phob un yn trosglwyddo’r trysor i’r un nesaf hyd nes i’r mynach olaf ymddiried y cwpan cymun cysegredig yn nwylo’r tirfeddianwyr lleol, sef y teulu Steadman. Ar ei wely angau, dywedodd y geiriau olaf bod rhaid iddynt ei ddiogelu ‘hyd nes i’r eglwys hawlio meddiant ohono’.
Cyd-briododd y teulu Steadman gyda’r teulu Powell, trigolion tŷ cyfagos Nanteos, a symudwyd y cwpan i’r fan hon i’w cadw’n ddiogel. Cafodd ei gadw yn y fan hon am genedlaethau, ac roedd ar gael i bererinion a’r cleifion lleol at ddibenion iacháu. Yn wir, dywedwyd bod y cwpwrdd a oedd yn ei ddal yn llawn testamentau ysgrifenedig niferus yn nodi ei briodweddau iacháu gwyrthiol. Arhosodd y cwpan, sy’n cael ei hadnabod bellach fel cwpan Nanteos yn y fan hon, hyd nes i’r olaf o linach teulu Powell farw a’r plasty gael ei werthu ym 1967.
Cafodd y cwpan ei hun ei dynnu o’r tŷ gan ei etifeddion, sef y teulu Mirylees a’i roddodd mewn daeargell yn Henffordd i’w ddiogelu ond dywedwyd i’r teulu ddod â’r cwpan yn ôl i Aberystwyth ym 1992. Ni wyddys ble mae’r cwpan ar hyn o bryd ond mae’n sicr nad yn Nanteos y mae, sydd bellach yn westy. Fodd bynnag, mae’n debyg bod y perchnogion yn parhau i sicrhau bod dŵr o’r cwpan ar gael i’r cleifion ac i’r sawl sy’n chwilio am briodweddau gwyrthiol hir y gwrthrych chwedlonol hwn.
Wrth gwrs, chwedl bur yw’r rhan fwyaf o’r uchod ond mae’r cwpan ei hun a’r testamentau i’w pwerau iacháu yn ddigon gwir. Ar ei waethaf, mae’n stori wych ac yn werth ei chofio fel rhan o’r prosiect hwn p’un ai’r Greal Sanctaidd ydyw ai peidio cymaint ag y gellir dweud bod iddo fodolaeth gorfforol o gwbl. |
|
Plasty Nanteos ger Aberystwyth, man gorffwys honedig y Greal Sanctaidd ar un tro. |

|
Ffotograff cynnar o Gwpan enwog Nanteos, diolch i archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Dywedwyd i’r cwpan gael ei wneud o bren yr olewydden a’i fod o arddull Syriaidd y ganrif gyntaf ond mae eraill wedi herio hyn, gan honni bod ei arddull yn ganoloesol a’i fod wedi cael ei wneud o’r llwyfen lydanddail. Er mai chwedl y Greal Sanctaidd sy’n trechu heddiw, roedd yna dybiaeth hefyd ar un tro bod y cwpan iachusol hwn wedi’i wneud o bren y Gwir Groes a’i fod wedi’i ddychwelyd i Brydain yn ystod Rhyfeloedd y Groes.
|
|
Rhan o adfeilion Abaty Ystrad Fflur. Roedd y mynachod Sistersaidd hunanymwadol a adeiladodd yr abaty pwysig hwn yn enwog am ddod o hyd i leoliadau diffaith ac unig er mwyn sefydlu eu cymunedau. Mae’r abaty hwn yn y ‘Dyffryn Blodau’ tawel ym mryniau anghysbell i’r gogledd o Dregaron yn nodweddu’r ymdeimlad o unigedd a llymder hwn. Sefydlwyd yr abaty yn y ddeuddegfed ganrif a thyfodd i fod yn bwysig iawn, gan ddod yn fan claddu i feirdd a thywysogion ledled Cymru. Wrth gwrs, mae’n debyg iddo ddal cwpan gwyrthiol Nanteos ar un tro. |
|
Chwith: Darlun Dante Gabriel Rossetti o Syr Galahad yng nghapel y Greal.
|
|
DYDDIAD AC AMSER: 26/8/07 - 2/9/07 LLEOLIAD: Ystâd Nanteos, ger Aberystwyth PRIS MYNEDIAD: Am ddim MYNEDIAD: 9am - 5pm, ceir mynediad trwy lwybr cerdded coetir anwastad ac felly mae’n anaddas i rai ymwelwyr anabl. CYFARWYDDIADAU: Cymerwch y B4340 o Rydyfelin ac yn fuan wedi hynny mae troad bach ar y chwith i fyny llwybr trwy’r goedwig ac ar hyd ffordd breifat hyd nes i chi gyrraedd y plasty/gwesty sydd wedi’i leoli yn SN 620787 PARCIO: Mae lle parcio ar gael nesaf at y gwesty I gael Mwy o Fanylion Cysylltwch â Chris fan hyn. |
Gwaith celf:Caiff y gwaith ei ysbrydoli gan chwedl leol Cwpan Nanteos: cwpan o bwerau rhyfedd y dywedwyd iddo drigo ym mhlasty Nanteos ar un tro a thybiwyd gan rai ysgolheigion mwy ecsentrig mai’r Greal Sanctaidd ei hun ydoedd. Yn y fan hon, rwy’n cymryd syniad mythau’r greal ond yn tynnu ymaith yr addurniadau diweddarach i edrych ar y straeon Cymreig a Cheltaidd cynharaf sy’n gysylltiedig â’r cwpan hudol hwn. Mae sawl chwedl mewn mythau Cymreig cynnar lle mae arwr, naill ai Arthur neu Bran, yn teithio i’r isfyd neu i Iwerddon ac yn dod â chrochan hud yn ôl. Edrychais ar rai enghreifftiau o grochanau Gwyddelig cynnar ac roeddwn am ddefnyddio’r rhain fel ysbrydoliaeth i greu darn cerfluniol o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu. Defnyddiais fetel wedi’i ailgylchu o ganiau diodydd a phethau tebyg ar ffrâm am gryfder ychwanegol. Mae’r defnydd o ganiau diodydd wedi’u hailgylchu’n cyfeirio at swyddogaeth y cwpan/crochan fel llestr yfed ond hefyd y ffordd y mae cydrannau cymaint o ffynonellau amrywiol a gwahanol wedi’u cyfuno i gynhyrchu ffurf chwedlonol eglur. |
|
Hafan I Nod I Arlunydd I Lleoladau I Cysylltwch â Ni I Gwaith Gorffenedig |
|
E-bost: legendarylandmarks@hotmail.co.uk |
Er mwyn cysylltu â Chris: |