|
Hafan |
|
Nod |
|
Arlunydd |
|
Lleoladau |
|
Cysylltwch â Ni |
|
Gwaith Gorffenedig |
|
Creu Cof Chwedlonol |
|
camlan |
|
DYDDIAD AC AMSER: 12/8/07 - 2/9/07 LLEOLIAD: Melin Meirion, Dinas Mawddwy, ger Machynlleth. PRIS MYNEDIAD: Am ddim MYNEDIAD: 9am - 5pm. CYFARWYDDIADAU: Gellir dod o hyd i’r gwaith gosod ger carreg Arthur ar rodfa maes y gad. Mae Melin Meirion ym mhentref Dinas Mawddwy ger Machynlleth oddi ar yr A470 i Fallwyd. PARCIO: mae lle parcio ar gael ym maes parcio’r felin. I gael Mwy o Fanylion Cysylltwch â Chris fan hyn. |
|
Yr olygfa sy’n edrych dros Faes Camlan lle y dywedir i’r frwydr enwog ddigwydd. |

Gwaith Celf :Mae’r gwaith yn cyfeirio at chwedl leol brwydr olaf y Brenin Arthur ym maes Camlan lle syrthiodd ef a’i nai Medrawd mewn brwydr. Cymer y gwaith ffurf gwaith gosod dros dro sef dau ffigur cerfluniol o farchogion arfog sydd wedi’u hadeiladu o amrywiaeth o ddefnyddiau (wedi’u hadeiladu’n bennaf o gwmpas ffrâm wifren wedi’i llenwi) sy’n gorwedd ar y glaswellt. Yn gwmni i’r ffigurau y mae bwrdd bach yn esbonio’r gwaith ac yn cynnwys dyfyniad byr o’r chwedl. Mae’r ddau ffigur arddulliedig o farchogion yn gorwedd wyneb i lawr wedi’u dylunio i gofio Arthur a Medrawd, wedi’u hadeiladu mewn haenau a chan wisgo harneisiau o oesoedd diweddarach maent yn ceisio cynrychioli’r ffordd y mae’r chwedlau cynharaf wedi’u gwisgo mewn haen ar ôl haen o chwedl a dehongliad dilynol, gan adlewyrchu pryderon a safbwynt penodol eu hoes benodol bob tro. |
ChwedlMaes Camlan yw’r enw a roddir i gae yn ardal Dinas Mawddwy. Y maes Camlan hwn yw un o’r ychydig leoedd ym Mhrydain i ddwyn enw brwydr olaf, aflwyddiannus y Brenin Arthur yn erbyn ei nai twyllodrus. Yn y fersiwn adnabyddus o’r stori, fel y gwelir yng Nghylch y Fwlgat Ffrengig ac a adroddwyd yn Saesneg gan Syr Thomas Malory yn ‘Le Mort DArthur’ diffiniol, ni chaiff brwydr olaf Arthur fyth ei enwi’n Gamlan a dywedir ei bod wedi digwydd ar Wastadedd Caersallog (Salisbury Plain) yn ne Lloegr. Maent yn dweud, wrth i Arthur ryfela yn erbyn Lawnslot yn Ffrainc i ddial am ei odineb â’r frenhines Gwenhwyfar; nôl ym Mhrydain gwnaeth ei nai a’i fab, Medrawd, a grëwyd yn llosgachol, gipio’r orsedd a dwyn gwarchae ar Gwenhwyfar gyda’r bwriad o’i phriodi. Pan glywodd am frad Medrawd, dychwelodd Arthur i Brydain yn gyflym ond gyda’r Ford Gron wedi’i disbyddu gan ymchwil y Greal ac wedi’i rwygo gan y rhyfel gyda Lawnslot, ni allai alw ar ei gryfder llawn mwyach. Cyfarfu â byddin Medrawd yng Ngwastadedd Caersallog lle gwnaethant geisio dod i gytundeb trwy drafodaeth. Fodd bynnag, wrth iddynt gyd-drafod, cafodd marchog ei frathu gan wiber a thynnodd ei gleddyf i ladd y neidr. Yn drychinebus, o weld fflach llafn yn yr haul, credai’r ddwy fyddin fod brad ar droed a gwnaethant ymosod ar ei gilydd, gan ymuno’n ffyrnig mewn brwydr. Aeth y frwydr yn ei blaen trwy’r dydd ac erbyn iddi nosi, dim ond pedwar dyn oedd yn sefyll, gyda gweddill y marchogion wedi’u lladd. O weld ei gilydd ar draws y maes gwaedlyd, ymosododd Arthur a Medrawd ar ei gilydd a rhedodd Arthur trwy’r bradwr gyda’i waywffon. Gyda’r tamaid bach o nerth yr oedd ganddo ar ôl, tynnodd Medrawd ei hun i fyny gyda choes gwaywffon Arthur a tharodd ef yn drwm ar ei ben, ac yna cwympodd i’r llawr a bu farw. Clwyfwyd Arthur i farwolaeth, fel ag y gwnaed i’w fwtler Luc a fu farw ei hun yn ceisio cario’i frenin o’r maes. Cariodd Bedwyr Arthur i’r lan ac ar ôl bwrw ei gleddyf Caledfwlch ymaith, aeth ag ef i gwch camlas a oedd yn cael ei lywio gan dair brenhines a’i cludodd dros y dŵr i orffwys yn Nyffryn Afallon. Dywed rhai iddo farw, dywed eraill ei fod yn cysgu, gan aros i ddod nôl eto pan fydd ar ei bobl ei angen. Nid yw fersiwn Gymraeg y chwedl, sy’n debygol o fod yn weddill traddodiad llawer cynharach ac felly traddodiad mwy diffuant, yn cynnwys y sglein rhamantus ond nid yw’n hepgor trychineb ei gymar mwy adnabyddus. Dywedir i’r fersiwn hon yn y Triawd a’r Annales Cambriae ddigwydd yn 539 OC ac mae’n nodi i Arthur a Medrawd syrthio mewn brwydr a elwir yn Gamlan. Dilynodd y frwydr ddeng mlynedd ar ddeg o heddwch a sefydlogrwydd ar ôl i Arthur orchfygu’n llethol ar y mewnfudwyr Sacsonaidd ym Mynydd Baddon ac a arweiniodd at gwymp gwrthsafiad Prydain. Mae ffynonellau Cymru’n nodi ymhell o fod yn ddyn drwg fel y caiff Medrawd ei bortreadu’n draddodiadol, roedd yn arglwydd balch, dewr a chwrtais. Ceisiodd boneddigion eiddigeddus achosi cynnen rhwng Arthur a Medrawd, yn ôl pob tebyg mewn ymgais i lenwi’r gwactod pŵer y byddai hyn yn ei greu’n anochel. Anogodd Iddawg Cordd Prydain elyniaeth trwy weithredu fel negeswr rhwng y ddau ddyn gan newid eu negeseuon yn fwriadol ac yn bryfoclyd. Dywedir hefyd i Gwyn Hyfar gynllwynio’r frwydr (er y gallai hyn fod yn wall trawsgrifio - gan nad yw Gwyn Hyfar a Gwenhwyfar yn annhebyg). Fodd bynnag, nid achoswyd y frwydr gan anffyddlondeb Gwenhwyfar a rhaniad dilynol y Ford Gron, ond gan ei gelyniaeth â’i chwaer, sef gwraig Medrawd. Ffraeodd Gwenhwyfar a’i chwaer Gwenhwyfach, (dros ddwy gneuen yn ôl rhai straeon!) a dywedir bod Medrawd wedi dod i lys Arthur yng Ngelliwig yn Kerniw (y dadleuir yn amrywiol mai yng Ngwent, Cernyw neu Lŷn y mae hyn) lle llathruddodd y llys gan beidio â gadael bwyd heb ei fwyta na diod heb ei yfed. Fodd bynnag, yn waeth na hynny, llusgodd Gwenhwyfar o’i sedd frenhinol a rhoddodd drawiad ffyrnig iddi. Er mwyn dial, teithiodd Arthur a’i ddynion i lys Medrawd lle gwnaethant ei llathruddo yn yr un modd ac roedd y drws wedi’i agor am ryfel agored. Cyfarfu’r ddwy fyddin yng Nghamlan, y’i disgrifiwyd yn y traddodiad Cymreig fel un o dair brwydr ofer Prydain, gan ddod yn gyfystyr â lladd ofnadwy a dibwrpas. Rhannodd Arthur ei luoedd yn angheuol a chafodd y ddwy fyddin bron eu disbyddu’n llwyr i ddyn, gan adael teyrnasoedd Prydain yn agored i ymosodiad gan yr Eingl-Sacsoniaid. Yn draddodiadol, dim ond saith (neu dri) o’r brwydrwyr oroesodd: Sandde Bryd Angel, a oedd mor hardd roedd pawb yn credu mai angel ydoedd, Morfran ap Tegid, a oedd mor hyll roedd pawb yn credu mai’r diafol ydoedd, Sant Cynfelyn/Cynwyl a ddihangodd ar geffyl Arthur sef Hengroen, Sant Cedwyn a ddihangodd trwy lwc, Sant Pedrog gan gryfder ei waywffon, Derfel Gadarn gan ei gryfder ef ei hun a Geneid Hir gan ei gyflymder. Ond a allai Maes Camlan amddiffyn y lleoliad rhag y gwrthdaro tyngedfennol hwn? Yn wir, os ceisiwn leoli mannau sy’n gysylltiedig â phob un o’r goroeswyr a restrwyd, mae’n ymddangos eu bod yn ymgasglu o gwmpas yr ardal hon o Ogledd Cymru ac felly mae Maes Camlan, ynghyd â bwlch cyfagos Camlan a Afon Gamlan, yn ymgeisydd cryf pendant ar gyfer safle’r frwydr. Roedd Camlan yn drychinebus i’r Prydeinwyr, enillodd buddugoliaethau Arthur genhedlaeth o heddwch a orfododd y Sacsoniaid yn ôl i’w troedleoedd. Ar ôl y dyddiad a roddwyd ar gyfer y frwydr yn y traddodiad Cymreig daeth yn wir troad i’r llanw yn y brwydrau mwyaf chwerw rhwng mewnfudwyr Almaenaidd a’r Prydeinwyr brodorol. Dyddiwyd Camlan yn amrywiol rhwng 520 a 542 OC ac yn y blynyddoedd sy’n dilyn hyn, mae tystiolaeth destunol ac archeolegol sy’n dangos datblygiad cyflym gan y Sacsoniaid. Erbyn 577 OC gorchfygodd y Sacsoniaid y Prydeinwyr yn Dryham ger Caerfaddon, ac felly’n torri’r Prydeinwyr i ffwrdd o’r hyn a fyddai’n dod yn Gymru o’r rhai o Dumnonia (Cernyw a Dyfnaint). Heb fod yn hir ar ôl 613 OC, gorchfygodd yr Eingl y Prydeinwyr yng Nghaer gan dorri Cymru i ffwrdd i’r gogledd o Deyrnasoedd Prydeinig Rheged (Swydd Gaerhirfryn a Chymbria) ac Ystrad Clud (Strathclyde). Mae’r buddugoliaethau hyn yn dangos yn union pa mor ddylanwadol yr oedd Arthur am lai na chanrif cyn iddynt fod yn safleoedd dwy o’i fuddugoliaethau mwyaf (Mynydd Baddon a Dinas y Llengoedd). Gyda’r Prydeinwyr gorllewinol bellach wedi’u torri i ffwrdd (o’r gair Sacsonaidd Wealh - yn golygu ‘tramorwyr’) crëwyd Cymru i bob pwrpas a thua’r adeg hon dechreuodd y Prydeinwyr gyfeirio at eu hunain fel y Cymry o’r gair Prydeinig ‘Combrogi’ sy’n golygu cyd wladwyr. Er iddynt wrthsefyll am gannoedd o flynyddoedd, yn y diwedd syrthiodd teyrnasoedd gogledd a de orllewin Prydain i’r Eingl-Sacsoniaid a ffurfiodd yr hyn a fyddai’n dod yn Lloegr. Oni bai am y gyflafan lwyr yng Nghamlan a chwymp Prydain, pwy a ŵyr pa ffurf fyddai ein Hynys yn ei chymryd heddiw. Gallai’r Gymraeg nid yn unig fod yn iaith Caerfaddon a Chaer ond efallai Rhydychen, Efrog a Llundain hefyd. |
|
Hafan I Nod I Arlunydd I Lleoladau I Cysylltwch â Ni I Gwaith Gorffenedig |
|
E-bost: legendarylandmarks@hotmail.co.uk |
Er mwyn cysylltu â Chris: |

