|
Hafan |
|
Nod |
|
Arlunydd |
|
Lleoladau |
|
Cysylltwch â Ni |
|
Gwaith Gorffenedig |
|
Creu Cof Chwedlonol |
|
Cantre’r gwaelod |
Chewdl:Tua 490 OC ganed brenin mawr, brawd y Maelgwn Gwynedd cryf. Gwyddno Garanhir oedd ei enw ac roedd yn rheoli teyrnas yng ngorllewin Cymru sy’n cwmpasu tipyn o’r hyn a elwir yn Geredigion bellach. Gwasanaethwyd y deyrnas wastad hon yn gyson gan nifer o aberoedd mawr gan arwain at dir mor ffrwythlon, dywedwyd bod erw yn y fan honno’n werth pedair erw yng ngweddill Cymru. Roedd y gwastatiroedd ffrwythlon hyn yn dibynnu, fel yr Iseldiroedd sydd ohoni heddiw, ar rwydwaith o ffosydd a llifddorau a gynhelir yn dda i gadw’r môr draw. Byddai’r gatiau’n cael eu hagor gyda’r trai i ddraenio’r tir ond wrth i’r llanw droi a dechrau llifo nôl roedd y gatiau’n cael eu cau gan gynnal y tir i’r ffermwyr. Yn ystod teyrnasiad Gwyddno Garanhir, enw’r dyn a oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw rhwydwaith y ffosydd oedd Seithennyn. Roedd Seithennyn yn falch iawn o’i gyfrifoldebau ac arferai frolio’n fawr am lawer ohonynt yn y dafarn. Mewn gwirionedd, roedd ychydig yn rhy hoff o yfed a rhybuddiodd llawer ef ynghylch ei gamgymeriadau ond ni fyddai’n cymryd sylw ohonynt. Un noson, sef noson llanw uchaf y flwyddyn, chwythodd storm fawr i mewn o’r gorllewin a gwnaeth trigolion y wlad honno gau eu hunain i ffwrdd o’r tywydd ffiaidd ym mhalas Gwyddno yng Nghaer Gwyddno. Gan wledda ac yfed, anghofiwyd y tywydd erchyll yn fuan ac yfodd Seithennyn lawer gormod o win ac wrth deimlo’n gysglyd, syrthiodd i gysgu yn erbyn wal y neuadd fawr. Ar hyd y nos, rhuthrodd y gwyntoedd cryfion i mewn o’r de orllewin, gyda thonnau’r storm yn chwipio dyfroedd tywyll Bae Ceredigion. Yn ei frys i fynd allan o’r storm ac i fwynhau ei noson o yfed, roedd Seithennyn wedi anghofio diogelu’r llifddorau i’r gorllewin ac wrth i’r llanw droi tua chanol nos, rhuthrodd tonnau rhewllyd y môr anferthol i mewn. Roedd y tir yn ddiamddiffyn a boddwyd pob un o’r un pentref ar bymtheg yn y rhanbarth isel o dan y dŵr chwyrlïol. Ffodd Gwyddno Garanhir a’i bobl mewn ofn o’r dŵr tonnog a gorfu iddynt grafu bywoliaeth dlotach ar y tir uwch i ffwrdd o’r môr. Ail-leolwyd y llys yn frysiog o Gaer Gwyddno adfeiliedig a sefydlwyd y prif borthladd ym Mhorth Wyddno ar safle Borth fel y mae heddiw, y dywedir mewn barddoniaeth Gymraeg gynnar mai un o dri phorthladd mawr Ynys Prydain ydyw. Yn ôl pob sôn, ar foreau tawel, gellir parhau i glywed clychau’r deyrnas goll yn canu o dan y tonnau, a gaiff eu troi gan y cerhyntau. Yn rhyfeddol, mae lleoliadau’r chwedl hynod hon yn parhau hyd heddiw. Ym Morth, mae’r llanw isel yn datguddio golygfa hynod ryfeddol ar ffurf boncyffion coed coedwig hynafol yn ymddangos o’r morynnau. Ar hyd bae Ceredigion, gellir hefyd gweld adfeilion tybiedig y ffosydd a’r sarnau sy’n ymestyn allan i’r môr am nifer fawr o filltiroedd. Mae Sarn Badrig, Sarn y Bwch, Sarn Gynfelyn, Sarn Dewi a Sarn Cadwgan yn riffiau islanwol bas anarferol iawn yn swyddogol, sy’n ymestyn llawer o filltiroedd i mewn i Fae Ceredigion o’r arfordir. Maent yn farianau rhewlifol sy’n deillio o’r rhewlifiant olaf ac maent wedi’u cyfansoddi’n gyfan gwbl o glogfeini, coblau a cherrig mân wedi’u cymysgu â graddau amrywiol o waddodion. Fodd bynnag, mae chwedl yn eu gwneud nhw’n weddillion amddiffynfeydd ffaeledig Cantre’r Gwaelod a, Sarn Gynfelyn, ychydig filltiroedd i’r gogledd o Aberystwyth yw gweddillion sarn y dihangodd y Brenin Gwyddno a’i bobl o’r llifogydd ar hyd iddo. Ar ei ddiwedd, saith milltir i’r gorllewin allan i’r môr y mae darn o ddŵr mwy bas lle gellir gweld clogfeini mawr ar ffurf cerrig sylfaen ar lanw isel. Yr enw ar gyfer yr ardal hon yw Caerwyddno, sef dinas Gwyddno. |
|
Boncyff coeden ffosiledig: rhan o’r goedwig suddedig sy’n gorwedd oddi ar arfordir Borth yng Ngheredigion. |


|
I’r chwith, gallwch weld darn o hen siart sydd, er ei fod yn anodd ei ddarllen, yn dangos graddau Sarn Gynfelyn sy’n terfynu saith milltir i’r gorllewin oddi ar draeth Caerwyddno. Mae’r nodiadau ar y siart yn darllen ‘Sych mewn Dŵr Isel’ ac wedyn yn dweud fel a ganlyn: ‘Sarn Gynfelyn yn ymestyn i’r Môr tua Saith Milltir y mae darn o dir blêr o’r enw Caerwyddno ar ei Ddiwedd sy’n mynd yn Sych yn y Llanw Mawr’. Gweler isod ffotograff o Sarn Gynfelyn lle dechreuodd y gyfres gyntaf o waith gosod, gan ymestyn ar hyd y draethlin hon i’r goedwig suddedig ym Morth. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig y cyswllt mwyaf cyffyrddadwy â’r deyrnas chwedlonol a gollwyd o dan y tonnau. |
|
Mae’r map a welir ar y dde yn dangos graddau’r ardaloedd dŵr bas o gwmpas Bae Ceredigion gan gynnwys nodweddion hynod anarferol Sarn. Ar waelod y map gellir gweld Sarn Gynfelyn fel y disgrifir uchod, yn dod i ben yng Nghaer Gwyddno. Rwyf hefyd wedi nodi ar leoliad Borth sydd ohoni heddiw. A allai’r dyfroedd mwy bas hyn fod wedi bod yn diroedd isel Cantre’r Gwaelod yn wreiddiol? |
Gwaith celf:Mae’r gwaith gosod yn ymdrin yn bennaf â chwedl Cantre’r Gwaelod: stori’r deyrnas hynafol a gollwyd o dan y môr ac y dywedwyd iddi ddigwydd yn lleol. Bydd yn cael ei ysbrydoli gan strwythur hynafol arall a gollwyd i’r môr: Seahenge yn Norfolk, Lloegr, fel man cychwyn ar gyfer gwaith celf sy’n rhannol gerfluniol, yn rhannol yn gelf tir. Bydd y darn yn ffurfio crair dychmygus y deyrnas goll chwedlonol, gan ddwyn i gof coed sylfaen cwt adfeiliedig a lled-suddedig neu rywbeth felly a hefyd boncyff coeden, gan gyfeirio at y boncyff sydd wedi’i droi i fyny yn Seahenge a’r goedwig cynhanesyddol suddedig a welir yn lleol ym Morth ar lanw isel. Bydd gan y darn berthnasedd cyfoes trwy gysylltu gwareiddiadau hynafol a gollwyd i’r môr, y ddau yn real (Seahenge – Norfolk) ac yn fytholegol (Cantre’r Gwaelod) mewn dwy ardal sydd yn hynod agored i niwed ar hyn o bryd i’r codiadau a ragwelir yn lefel y môr yn y degawdau sydd i ddod a fydd yn deillio o newid cynyddol yn yr hinsawdd. |
|
DYDDIAD AC AMSER: 9/7/07 - 9/9/07 LLEOLIAD: Ynyslas, ger Borth. PRIS MYNEDIAD: Am ddim MYNEDIAD: Ar unrhyw adeg resymol, gellir mynd ato dros draeth tywodlyd ac felly gallai fod yn anaddas i rai ymwelwyr anabl. CYFARWYDDIADAU: Mae’r gwaith ar draeth yn Ynyslas ger Borth. O’r maes parcio, bydd angen i chi gerdded o amgylch y penrhyn lle gellir dod o hyd i’r gwaith yng nghefn y twyni. PARCIO: Mae lle parcio ar gael ar draeth yn Ynyslas am ffi fach. I gael Mwy o Fanylion Cysylltwch â Chris fan hyn. |

|
Hafan I Nod I Arlunydd I Lleoladau I Cysylltwch â Ni I Gwaith Gorffenedig |
|
E-bost: legendarylandmarks@hotmail.co.uk |
Er mwyn cysylltu â Chris: |


ffotograffau: |