|
Hafan |
|
Nod |
|
Arlunydd |
|
Lleoladau |
|
Cysylltwch â Ni |
|
Gwaith Gorffenedig |
|
Creu Cof Chwedlonol |
|
Llanbadarn fawr |
chwedlRoedd Llanbadarn, sy’n golygu clostir cysegredig Sant Padarn, yn ganolfan gynnar a phwysig yr eglwys Gristnogol Geltaidd. Wedi’i sefydlu gan Sant Padarn, y sant enwog o olygus, yn y flwyddyn 516 yn ôl pob sôn gyda’i gefndryd Sant Cadfan a Sant Tydecho, roedd yr eglwys hon yn sedd ei esgobaeth ei hun ar un adeg. Mae’n debyg i Badarn gadw cwmni i Dewi Sant ar ei bererindod i’r Tir Sanctaidd a chafodd ei gysegru’n esgob gan batriarch Jerwsalem. Roedd galw mawr am ei diwnig wych ac mae’n bosibl yr oedd yn llawn rhinweddau hudol. Yn ‘The Life of St. Padarn’, mae’r awdur yn cofnodi ymweliad ‘rhyw orthrymwr o’r enw Arthur’ â chell y Sant lle cymerodd y brenin at diwnig wych Padarn a mynnodd ei fod yn ei rhoi iddo. Pan wrthododd y Sant, gwylltiodd Arthur a gadawodd gan felltithio a chan stampio’i draed. Dychwelodd Arthur yn ddiweddarach, cymerodd y got trwy orfodaeth ac roedd yn mynd ati i adael yr anheddiad - ond mewn ymyriad rhyfeddol, cafodd ei lyncu gan yr union dir ei hun i fyny hyd at ei wddf. Felly, gorfodwyd Arthur i ildio’r clogyn ac erfyn ar Badarn am faddeuant cyn iddo gael ei ryddhau a gallu dianc. Mae’n ddeniadol i gredu y gallai’r stori gynnwys gronyn o wirionedd, efallai o Arthur yn dwyn cyrch ar eiddo mynachaidd neu’n ei hawlio i’w ryfelwyr neu i’r wladwriaeth, nid ef fyddai’r brenin olaf i geisio gwneud y ffasiwn beth. Saif y tir o gwmpas Llanbadarn ar orlifdir afon Rheidol ac mae’n aml yn gorsiog. Mae’n bosibl iawn, a byddai wedi bod yn fwy posibl mewn oes gyda ffyrdd amherffaith, yn enwedig i ryfelwyr gydag arfau trwm, i gymryd y tro anghywir a mynd yn sownd yn y gors. Gallai gwybodaeth leol fod yn hanfodol er mwyn dianc, lle byddai’n rhaid i rai pobl fod wedi llyncu eu balchder mewn rhai achosion. Fodd bynnag, ceir paralel diddorol a allai gyfrif am yr hanes hwn. Mae achau Prydeinwyr y Gogledd yn nodi o gwmpas 370 OC yn Nheyrnas Ystrad Clud (Strathclyde) yr oedd dyn o’r enw Quintilius Clemes yn rheoli a oedd yn rhoi awdurdod dros ardaloedd y Northumberland modern a De’r Alban o gwmpas Mur Hadrian i bennaeth o’r enw Paternus Pesrut (Paternus y Got Goch). Caiff ei adnabod yn nhraddodiad cynnar Cymru fel Padarn Cot Goch y dywedwyd i’w got fod yn un o Dair ar Ddeg o Drysorau hud Prydain. Roedd cot goch yn aml yn arwyddlun swyddog Rhufeinig ar wasanaeth ac mae’n bosibl wrth i rai gweithredoedd arwrol ar ran y pennaeth Prydeinig gogleddol hwn drosglwyddo’n chwedl, felly y gwnaeth rhinweddau hudol tybiedig ei got wahanol hefyd. Priodolodd yr eiddo hud i’r trysor hwn ym Mhrydain mai dim ond gŵr bonheddig allai ei gwisgo ac y byddai’n gwrthod cael ei gwisgo gan daeog. Mae hyn i weld yn ddatganiad barddonol y rheng yr oedd gwisgo’r fath arwyddlun (clogyn coch y swyddogion Rhufeinig) yn ei nodi. Roedd traddodiad cynnar Cymru yn aml yn rhamanteiddio’r oes Rhufeinig cyn i’r Sacsoniaid ddod ac mae’n bosibl i’r rheng a oedd yn awgrymu arwyddlun Rhufeinig y got goch gael ei ganmol. Gallai’r dryswch dros ddau arwr cynnar o’r enw Padarn, un gyda chot uchel ei pharch, fod wedi arwain at adroddiad hagiograffaidd am got ddymunol y Padarn arall, sef Sant Padarn. |
|
Yr eglwys sydd bellach yn sefyll ar safle Cristnogol cynnar pwysig Llanbadarn Fawr. |
Gwaith celf:Mae’r chwedl hon yn nodi i’r Brenin Arthur ddod i gell Sant Padarn yn mynnu cael ei diwnig wych ac yn ei chymryd trwy orfodaeth yn y pen draw. Wedyn, achosodd Sant Padarn iddo gael ei lyncu gan y tir y cerddai arno nes iddo erfyn ar y Sant am ei faddeuant a rhoi’r clogyn gwych yn ôl. Mae’r gwaith gosod hwn yn cynnwys creu tiwnig arddulliedig, addurnedig ac wedi’i haddurno’n dlws. Caiff hon ei harddangos mewn mannau amrywiol yn Llanbadarn ger yr eglwys yn null bwgan brain neu ddymi teiliwr gyda phlac esboniadol yn cyd-fynd â hi yn rhoi manylion yr arlunydd a’r chwedl y tu ôl i’r gwaith. Hwyrach y gosodir y gwaith gosod hefyd yn y tir corsiog nesaf at afon Rheidol sy’n rhedeg trwy Lanbadarn Fawr gan fod hyn yn ymddangos fel y lle mwyaf tebygol i unrhyw ddyn ag arfau trwm suddo i’r tir yn yr ardal. |

|
DYDDIAD AC AMSER: 23/9/07 - 30/9/07 LLEOLIAD: Eglwys Llanbadarn, Llanbadarn Fawr, ger Aberystwyth. PRIS MYNEDIAD: Am ddim. MYNEDIAD: 9am - 6pm. CYFARWYDDIADAU: Mae Llanbadarn Fawr yn bentref tawel i’r dwyrain o Aberystwyth yng Ngheredigion. Heddiw, mae’n faestref i’w cymydog mwy o faint ond Llanbadarn Fawr oedd y prif anheddiad ar un tro. Saif yr eglwys yng nghanol y pentref yn SN 599810 PARCIO: Gellir dod o hyd i le parcio nesaf at yr eglwys. I gael Mwy o Fanylion Cysylltwch â Chris fan hyn. |

|
Hafan I Nod I Arlunydd I Lleoladau I Cysylltwch â Ni I Gwaith Gorffenedig |
|
E-bost: legendarylandmarks@hotmail.co.uk |
Er mwyn cysylltu â Chris: |


