|
Hafan |
|
Nod |
|
Arlunydd |
|
Lleoladau |
|
Cysylltwch â Ni |
|
Gwaith Gorffenedig |
|
Creu Cof Chwedlonol |
|
Mae Maes Camlan yng ngogledd Cymru yn un o lond dwrn o leoliadau yn y rhanbarth hwn sy’n dwyn yr enw o un o ‘dair brwydr ofer Ynys Prydain’ sef brwydr Camlan, gwrthdaro marwol olaf y Brenin Arthur gyda’i nai twyllodrus. |
|
Dyma un o’r aneddiadau mynachaidd cynharaf yng Nghymru a dywedwyd bod ei sylfaenydd, Sant Padrig, wedi wynebu Arthur ar ôl i’r brenin ddwyn ei got hud. Yn ddiweddarach, bu rhaid i Arthur ofyn am faddeuant yn dilyn ymyriad dwyfol. |
|
Llanbadarn fawr |

|
Lleoladau |
|
Fan hyn, gallwch ddod o hyd i’r lleoliadau sydd wedi’u clustnodi ar gyfer gwaith gosod yn y cam cyfredol hwn o’r prosiect. Os cliciwch ar y dolenni cyswllt isod, gallwch edrych ar fanylion pob prosiect unigol gan gynnwys y wybodaeth gefndir am gysylltiadau chwedlonol pob safle a’r gwaith gosod penodol a gynigiwyd. |
|
Ym mryniau gogledd aber Dyfi saif carreg sy’n cynnwys ôl carn tybiedig march y Brenin Arthur wrth iddo wneud ei orau glas i dynnu anghenfil ofnadwy o’r Llyn Barfog cyfagos. |
|
Mae’n debyg i Gantre’r Gwaelod fod yn ddarn mawr o dir ffrwythlon a gollwyd o dan donnau Bae Ceredigion pan fethodd ei warcheidwad meddw gynnal ei amddiffynfeydd. |
|
Llyn Barfog |
|
Cantre’r gwaelod |

|
Darn o rostir yng nghwm Ystwyth sy’n dwyn enw helgi ffyddlon y Brenin Arthur sef Cabal, un o nifer o leoedd lleol sy’n cofio Arthur yn ei wedd fel yr heliwr mawr clasurol. |
|
maes camlan |
|
Rhos Gafallt |


|
Plasty sydd bellach yn westy ger Aberystwyth a arferai fod yn orffwysfan ‘Cwpan Nanteos’, y dywedir llawer mai’r Greal Sanctaidd ei hun ydyw. |
|
Plasty Nanteos |

|
Hafan I Nod I Arlunydd I Lleoladau I Cysylltwch â Ni I Gwaith Gorffenedig |