Hafan

Nod

Arlunydd

Lleoladau

Cysylltwch â Ni

Gwaith Gorffenedig

Creu Cof Chwedlonol

Sarn Gynfelyn, Ceredigion.

nod

E-bost: legendarylandmarks@hotmail.co.uk

Mae’r prosiect cydweithrediadol hwn yn ceisio llunio nifer o ymyriadau artistig yn y tirlun, a ysbrydolwyd yn uniongyrchol gan hanes chwedlonol pob lleoliad penodol a’r digwyddiadau y dywedir eu bod nhw wedi digwydd yno a seilio themâu o’u hamgylch.

 

Y nod yw cynhyrchu rhwydwaith ffisegol a rhithwir o gofadeiliau i fythau ac adfer traddodiadau diwylliannol hynafol ar ffurf newydd celfyddyd gyfoes gan ailgymryd ac atgyfodi tirnodau diwylliannol traddodiadol yn llythrennol ac yn ideolegol.  Mae’n ffurfio galwedigaeth deirblyg o ofod diwylliannol ynghyd â gofod ffisegol yn y tirlun a’r gofod rhithwir ar y we sy’n ymdrin â’r berthynas gymhleth rhwng naratif a’r tirlun/yr amgylchedd a pha faterion sy’n codi yn y ffordd rydym yn diffinio ein hunaniaeth. Bydd yn ceisio, mewn ffordd fach, i ailafael yn awenau ymarfer artistig cyfoes, sydd wedi’u parlysu’n ideolegol gan sioc y newydd a’i ailgyfeirio tuag at y traddodiadau sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer celfyddyd a diwylliant am gannoedd o flynyddoedd. 

 

Ynghyd â’r gwaith hwn o ddiogelu ac adfywio diwylliant gwerin, bydd yn ceisio tynnu’r gwrthrych diwylliannol i ffwrdd o gyd-destunau traddodiadol celfyddyd, i ffwrdd o ganolbwyntiau masnachol canolfannau trefol ac i mewn i’r bryniau, y coedwigoedd a’r glannau anghysbell.

 

Prif nod y prosiect hwn yw ehangu o’r gyfres waith gychwynnol hon i rwydwaith llewyrchus, cydweithrediadol cenedlaethol, neu hyd yn oed rhyngwladol o waith celf gyda phob un yn nodi safleoedd chwedlonol/mytholegol er mwyn i ni feddwl unwaith eto am ysblander ein treftadaeth ddiwylliannol sy’n diffinio’r union leoedd rydym yn byw ynddynt a’r bobl rydym ni heddiw.

Cerrig Meibion Arthur, Sir Benfro.

Er mwyn cysylltu â Chris: